|
Y Pwyllgor Busnes |
|
Lleoliad: |
Swyddfa'r Llywydd, 4ydd Llawr, Tŷ Hywel |
|
|
||
|
Dyddiad: |
Dydd Mawrth, 10 Gorffennaf 2012 |
|
|||
|
Amser: |
08:30 - 08:54 |
|
|||
|
|
|||||
|
|
|||||
|
Cofnodion: |
|||||
|
|
|
|
|||
|
Aelodau’r Pwyllgor: |
|
Rosemary Butler (Cadeirydd) Jocelyn Davies William Graham Jane Hutt Aled Roberts |
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Staff y Pwyllgor: |
|
Anna Daniel (Clerc)
|
|||
|
|
|
||||
|
|
|
|
|||
|
Eraill yn bresennol: |
|
David Melding, y Dirprwy Lywydd Adrian Crompton, Cyfarwyddwr Busnes y Cynulliad Sulafa Thomas, Pennaeth Pwyllgorau’r Cynulliad Craig Stephenson, Prif Ysgrifennydd Preifat y Llywydd Peter Greening, Llywodraeth Cymru
|
|||
|
|
|
||||
1. Ymddiheuriadau a chyhoeddiadau
2. Cofnodion y Cyfarfod Blaenorol
Nododd y Pwyllgor y cofnodion i’w cyhoeddi, yn amodol ar fân newidiadau.
3. Trefn Busnes
3(i) Busnes yr wythnos hon
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r eitem ychwanegol a ganlyn yn cael ei chynnal ddydd Mawrth:
· Datganiad gan y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol: Y Dystiolaeth sy’n Tanategu’r Achos dros Ad-drefnu’r GIG yng Nghymru (30 munud)
Nododd y Rheolwyr Busnes y byddai’r Cyfnod Pleidleisio’n cael ei gynnal cyn y Ddadl Fer ddydd Mawrth a dydd Mercher.
3(ii) Busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd Arweinydd y Tŷ i ystyried cais gan y Rheolwyr Busnes i gynnal dadl y Llywodraeth ar y Parth Cadwraeth Morol.
Nododd y Pwyllgor amserlen busnes y Llywodraeth ar gyfer y tair wythnos nesaf.
3(iii) Amserlen busnes y Cynulliad ar gyfer y tair wythnos nesaf
Cytunodd y Pwyllgor Busnes i drefnu amser ar gyfer yr eitem o fusnes a ganlyn:
Dydd Mercher 3 Hydref 2012
· Dadl Cyfnod 3 ar Fil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Ieithoedd Swyddogol), o dan Reol Sefydlog 26.44 (60 munud)
Yn unol â Rheol Sefydlog 26.36, mae’r gwelliannau i gael eu gwaredu yn y drefn y mae’r adrannau a’r atodlenni y maent yn cyfeirio atynt yn codi yn y Bil.
Ar ddiwedd Cyfnod 3 caiff y Comisiynydd gynnig bod y Bil yn cael ei basio yn unol â Rheol Sefydlog 26.47. Os cytunir ar y cynnig:
Cynnig Cyfnod 4 i gymeradwyo Bil Cynulliad Cenedlaethol Cymru (ieithoedd Swyddogol) o dan reol Sefydlog 26.47.
Penderfynodd y Pwyllgor ar drefn busnes y Cynulliad.
4. Pwyllgorau
4(i) Amserlen y Pwyllgorau
Nododd y Pwyllgor rôl bwysig y Pwyllgor Cyfrifon Cyhoeddus a bu’n ystyried yr opsiynau ar gyfer newid amserlen y Pwyllgor er mwyn sicrhau amser ychwanegol i gynnal cyfarfodydd y Pwyllgor. Gofynnodd y Rheolwyr Busnes am ragor o wybodaeth gan yr ysgrifenyddiaeth mewn perthynas ag opsiwn 8 (cynnal cyfarfodydd ar ddydd Llun yn rheolaidd), fel y gellir trafod y mater hwn yn ystod y cyfarfod yr wythnos nesaf.
4(ii) Amserlen ar gyfer Cyllideb 2013-14: Llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid
Bu’r Pwyllgor Busnes yn trafod llythyr gan Gadeirydd y Pwyllgor Cyllid a oedd yn awgrymu 13 Tachwedd, yn hytrach na 6 Tachwedd, fel dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiad ar y gyllideb ddrafft. Cytunodd y Rheolwyr Busnes ar ddyddiad amgen, sef dydd Iau 8 Tachwedd, er mwyn rhoi amser ychwanegol i’r Pwyllgor gwblhau ei adroddiad ar ôl y toriad hanner tymor.
4(iii) Y Pwyllgor Menter a Busnes: cais i ymweld â Brwsel ar 3 a 4 Hydref 2012
Cytunodd y Pwyllgor Busnes, mewn egwyddor, i gymeradwyo cais y Pwyllgor Menter a Busnes i ymweld â Senedd Ewrop a swyddfeydd eraill ym Mrwsel. Gwahoddodd y Rheolwyr Busnes y Pwyllgor Menter a Busnes i ailystyried y dyddiadau ar gyfer yr ymweliad hwn, gan eu bod yn gwrthdaro â Dadl Cyfnod 3 ar y Bil Ieithoedd Swyddogol, sydd wedi’i haildrefnu ar gyfer 3 Hydref.
5. Busnes Arall
5(i) Toriad yr haf: Trefniadau Cyflwyno ar gyfer y Gwasanaeth Deddfwriaeth a Gwasanaeth y Siambr
Cymeradwyodd y Pwyllgor Busnes y trefniadau cyflwyno arfaethedig ar gyfer y Gwasanaeth Deddfwriaeth a Gwasanaeth y Siambr yn ystod toriad yr haf.
Unrhyw Fusnes Arall
Dywedodd Arweinydd y Tŷ wrth y Rheolwyr Busnes y byddai papurau ar Gynigion Cysyniad Deddfwriaethol ar y Bil Menter A Diwygio Rheoleiddio a’r Bil Bathodynnau Parcio Personau Anabl yn cael eu cyflwyno i’r Pwyllgor i’w trafod ddydd Mawrth 17 Gorffennaf.
Roedd William Graham am gofnodi ei ddiolch i’r Swyddfa Gyflwyno am y cyngor cyson ac adeiladol a ddarparwyd gan swyddogion i’w swyddfa ef mewn perthynas â chyflwyno busnes.